Return to Google homepage.

 COYA (FAQ) am Gyfieithu Gwe Dudalen

Cartref

Popeth am Google

   Cymorth Chwiliad

   Nodweddion Google

   Mwy o ffyrdd i Google 

Cynhyrchwyd y cyfieithiadau yn awtomatid gan feddalwedd crefftus a blaengar heb ymyrraeth dynol.

Beth yw ystur y term "cyfieithu'r dudalen hon" wrth ochr canlyniad chwiliad?

Cynigia Google wasanaeth yn rhad ac am ddim i gyfieithu tudalennau'n awtomatig i'r Saesneg o ieithoedd eraill. Mae'r gwasanaeth yn dal i fod mewn modd Beta, sy'n golygu ei fod yn cael ei brofi a'i wella. Nid yw pob iaith yn cael ei chfieithu ac nid yw pob tudalen yn yr iaith yn cael eu cyfieithu i gyd. Ymhellach, nid yw testun tu fewn i lun yn cael ei gyfieithu.

Pabn y cliciwch ar y linc "cyfieithu y dudalen hon", fe'ch anfonir i fersiwn o'r dudalen a gyfieithwyd yn awtomatig i'r Saesneg. Cewch ddychwelyd i'r dudalen wreiddiol drwy glicio ar y linc "gweld y dudalen wreiddio" sydd yn y ffrâm uchaf ar y dudalen gyfieithwyd neu drwy glicio ar y testun mawr glas sydd ar ddechrau'r canlyniad.

  Pa ieithoedd ellir eu cyfieithu i'r Saesneg?

Ar hyn o bryd mae Google yn cynnig cyfeithiadau o'r Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Phortiwgieg.

  Pan fyddwch yn cefnogi cyfieithu ieithoedd eraill?

Mae Google yn gweithio ar ieithoedd eraill ac fe'i cewch cyn gynted ag y bydd y cyfieithu awtomatig yn cyrraedd ei safonau. Mae'n annodd gweld faint gymer hyn gan ei bod yn broses gymleth ac mae pob iaith yn taflu problemau unigryw.

  Nid yw'r cyfieithiad cystal ag yr hoffwn. A allwch ei wella?

Cynhyrchwyd y cyfieithiadau yn awtomatid gan feddalwedd crefftus a blaengar heb ymyrraeth dynol. Yn anffodus, nid yw'r meddalwedd mwyaf soffistigedig mor rhigyl a siaradwr iaith nac a sgiliau cyfieithydd proffesiynol. Mae cyfieithu awtomatig yn annodd gan fod ystur geiriau yn dibynu ar eu cyd-destun. Oherwydd hyn, rhaid i gyfieithiad cywir fod yn ymwybodol o gyd-destun yn ogystal a dealltwriaeth o strwythur a rheolau iaith. Er fod sawl peiriannydd a ieithydd yn gweithio ar y broblem, bydd yn ddipyn o amser cyn y cewch gyfieithiad perffaith. Yn y cyfamser gobeithiwn fod yr hyn sydd ar gael yn ddigonol i'r rhan fwyaf o bwrpasau.

  Pam nad yw pob canlyniad mewn iaith ellir ei chyfieithu gyda'r linc "Cyfieithu"?

Cynigir y linc "Cyfieithu" pan fod ganddom fwy o ffydd yn iaith y dudalen. Mae rhai tudalennau yn cynnwys sawl iaith a does dim digon o destun arnynt i fod yn gwbl sicr o pa iaith yw.

  A yw Google gyda chynllun i gynnig ffurflen y gallaf roi testun ynddi i'w gyfieithu?

Rydym yn edrych ar y posibilrwydd o gynnig hyn ond heb wneud pendrefyniad eto.
o ooO