Return to Google homepage.

 Tîm Rheoli Google

Cartref

Popeth am Google

    Proffil y Cwmni

    Canolfan y Wasg

Tîm Rheoli Google

Dr. Eric E. Schmidt, Cadeirydd a'r Prif Swyddog Gweithredol

dr. eric schmidtApwyntwyd Dr. Eric E. yn brif swyddog gweithredol yn Awst 2001, bum mis ar ôl ymuno a bwrdd cyfarwyddwyr Google fel cadeirydd. Mae Schmidt hefyd yn gadeirydd bwrdd gweinyddol Novell ble mae'n ymwneud a holl bendrefyniadau strategaethol ac arwyddocaol ac yn chware rôl ganolog yn natblygiadau technegol a rheoliaethol y cwmni.

Daeth Schmidt i Novell yn 1997 o Sun Microsystems, Inc., ble roedd yn brif swyddog technoleg a swyddog gweithredol gorfforaethol. Yn ei 14 mlynedd gyda Sun daliodd nifer o swyddi gweithredol,a magodd barch rhyngwladol am ei gyfraniad at ddatblygiad y Rhyngrwyd fel gelf i adeiladu cymunedau digidol mewn busnes, llywodraeth, addysg, gwyddoniaeth a diwilliant. Roedd hefyd yn offerynnol yn natblygiad a marchnata Java, iaith raglennu blatfform -anibynnol Sun.

Cyn ymuno a Sun, roedd Schmidt yn aelod o staff ymchwil yn y Lab Gwyddoniaeth Cyfrifiadur gyda Xerox yn y Palo Alto Research Center (PARC). Hefyd, daliodd swyddi yn Bell Laboratories a Zilog.

Mae gan Schmidt Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadur a gradd meistr mewn peirianeg drydanol o brifysgol Califforina yn Berkeley. Derbyniod ei radd Baglor mewn peirianeg drydanol i brifysgol Princeton.

Larry Page, Cyd-sylfaenydd a Llywydd, Cynyrch

larry pageGraddiodd Larry Page gydag anrhydedd gyda gradd baglor mewn gwyddoniaeth a pheirianeg o brifysgol Michigan, Ann Arbor. Tra ym mhrifysgol Michigan, derbyniodd Page nifer o wobrau arweinyddiaeth yn ei ymdrechion i wella'r coleg peirianyddol. Bu'n arlywydd ar gymdeithas Eta Kappa Nu Honor prifysgol Mitchigan. Ar hyn o bryd mae Page ar absenoldeb o Brifysgol Stanford, ble mae'n ymgeisydd Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadureg gyda'r Athro Terry Winograd. Page gychwynodd ac arweiniodd y prosiect ymchwil yn Stanford, sydd erbyn hyn wedi'i drawsnewid i Google.

Bu'n gweithio mewn cynllunio meddalwedd gyda Advanced Management Systems yn Washington, D.C., a CogniTek yn Evanston, Ill. Cafodd ei ddylanwadu'n gynnar gan ei dad a oedd yn Athro gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Dechreuodd Page ddefnyddio cyfrifiaduron yn 1979. Sylfaenodd Google Inc. yn 1998 gyda Sergey Brin.

Sergey Brin, Cyd-sylfaenydd a Llywydd Technoleg

sergey brinMae Sergey Brin yn frodor o Moscow a drebyniodd ei radd Anrhydedd Baglor mewn Gwyddoniaeth ym mathemateg a gwyddoniaeth cyfrifiadurol o Brifysgol Maryland yn College Park. Ar hyn o bryd mae ar absenoldeb o raglen Ph.D. gwyddoniaeth cyfrifiadurol ym Mhrifysgol Stanford, ble cafodd ey Radd Meistr. Mae Sergey yn 27 ac yn derbynydd o Gymrodiaeth Graddio y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol. Yn Stanford y cyfarfu a Larry Page a gweithiodd ar y prosiect ddatblygodd yn Google. Sefydlodd y ddau Google, Inc. yn 1998.

Mae diddordebau ymchwil Brin yn cynnwys peiriannau chwilio, echnydu gwybodaeth o fynonellau distrwythur, a chloddio ddata o gasgliadau mawr o destun a data gwydonol. Mae wedi cyhoeddi mewn mwy na dwsin o gyhoeddiadau academig, gan gynnwys Extracting Patterns and Relations from the World Wide Web; Dynamic Data Mining: A New Architecture for Data with High Dimensionality, which he published with Larry Page; Scalable Techniques for Mining Casual Structures; Dynamic Itemset Counting and Implication Rules for Market Basket Data; and Beyond Market Baskets: Generalizing Association Rules to Correlations.

Bu Brin yn siaradwr mewn sawl fforwm cenedlaethol a rhyngwladol mewn busnes, academia a thechnoleg gan gynnwys Academy of American Achievement; European Technology Forum; Technology, Entertainment and Design; a Silicon Alley 2001. Ban nad ynglyn a'i amryw ddyletswyddau fel arlywydd y cwmni, mae Brin yn astudio y trapïs a phymio sgwba yn ogystal a bod yn chwaraewr brwd mewn gemau hoci rolio gydag Gwglerwyr eraill yn y maes parcio.

Omid Kordestani, Is Lywydd o Datblygiad Busnes a Gwerthu

omid kordestaniMae gan Omid Kordestani dros deuddeng mlynedd o brofiad mewn uwch-dechnoleg a phrofiad menter gan gynnwys safleoedd allweddol yn y cwmni Rhyngrwyd arloesol, Netscape Communications. Fel is-lywydd datblygiad busnes a gwerthiant, cododd Kordestani refeniw gwefan Netscape o $88 miliwn y flwyddyn i dros $200 miliwn mewn deunaw mis.

Ymunodd Kordestani Netscape fel cyfarwyddwr gwerthiant OEM, ac yn ei bedair mlynedd gyda'r cwmni bu'n gyfrifol am sefydlu cydbethnasedd a chemniau mawr fel Citibank, AOL, Amazon, Intuit, Travelocity, Intel, @Home, eBay, a Excite. Gyn hynny roedd gyda Netscape, daliai swyddi mewn marchnata, a rheoli cynyrch yng ngwmni 3DO, Go Corporation, a Hewlett-Packard.

Derbyniodd Kordestani MBA o Brifysgol Stanford a gradd baclor gwyddoniaeth mewn peirianeg trydanol o Brifysgol San Jose State.

 

Urs Hölzle, Cymrawd Google

urs holzleYmunodd Urs Hölzle Google o Brifysgol California yn Santa Barbara ble roedd yn Athro cysylltiol yng ngwyddor cyfrifiaduron. Cafordd ei radd Meist mewn Gwyddor Cyfrifiaduron o ETH Zurich yn 1988 a chafodd Ysdgoloriaeth Fulbright Scholarship yr un flwyddyn. Yn 1994, cafodd Ph.D. o Brifysgol Stanford, lle canolbwyntiodd ei ymchwil ar ieithoedd rhaglennu a'u defnydd effeithlon. implementation.

Fel un o arloeswyr grynoad ddeinamig, a hefyd elwir yn "crynoad prin-mewn-amser", dyfeisiodd Hölzle dechnegau ffwndamental a ddefnyddir yn y rhan fwyaf o crynoadyddion Java heddiw. Cyn ymuno a Google, roedd Hölzle yn gydsylfaenydd o Animorphic Systems, wnaeth ddatblygu crynoadyddion i Smalltalk a Java. Ar ôl i Sun Microsystems gymeryd Animorphic Systems drosodd yn 1997, gynorthwyodd Hölzle yn adeiladu crynoadydd uwch-berfformiad, sef Hotspot Java, i Javasoft.

Yn 1996, derbyniodd Hölzle wobr CAREER gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol am ei waith ar weithrediadau uwch-berfformiad ar gyfer ieithoedd gwrthrych-gyfeiriadol. Roedd Hölzle yn un o'r gyfrannwyr blaenaf i brosiect Isadeoledd Crynoadydd Cenedlaethol DARPA. Gwasanaethodd ar bwyllgorau rhaglenni i brif gynadleddau ym meysydd gweithrediadau ieithoedd rhaglenu, ac mae'n awdur nifer o bapurau gwyddonol ac yn dal nifer o batenta UDA.

Enwyd Hölzle yn Gymrawd Google Fellow ar ôl gwasanaethu'r cwmni fel ei Is-lywydd Oeirianeg cyntaf. Yn y rôl hon arweiniodd ddatblygiad isadeiledd gweithredol y cwmni ac mae'n enwog am ei sannau coch a'i Leonberger amrediad rhydd, Yoshka (Pen dyn Google).

Craig Silverstein, Cyfarwyddwr Technoleg

craig silversteinMae Craig Silverstein ar absenoldeb o Brifysgol Stanford ble mae'n dilyn Ph.D. mewn gwyddoniaeth cyfrifiadurol ac yn canolbwyntio ar adalw gwybodaeth a chloddio data. Cyfrannodd Silverstein ei arbenigedd i Google gyda algyriddmau cywasgu tra roedd Google yn dal yn prosiect ymchwil yn Stanford. Ei ddiddordebau academig eraill oedd fersiynau uwch effeithiol o strwythurau sylfaeniol fel tablau hash yn ogystal a chlystyru effeithlon o setiau data mawr yn defnyddio Gwasgariad/Casgliad a mynegeio semantig cudd fel mae'n perthyn i gylstyru. Gwnaeth y gwaith hwn yn Xerox PARC.

Cafodd Silverstein radd anrhydedd a gradd Baglor mewn gwyddoniaeth gyfrifiadurol o Goleg Harvard. Yn ogystal, derbynniodd y wobr Phi Beta Kappa gan Harvard, Ysgoloriaeth Dechnegol Microsoft, ac enillodd Wobr Derek Bok ddwy waith am Addysgu Rhagorol. Ef oedd y cyntaf i'w gyflogi gan sylfaenwyr Google.

Yn ogystal a chyflenwi arweiniad techolegol, mae Silverstein yn cyflenwi'r Googlwyr a'u bara beunyddiol gan redeg tri peiriant pobi, yn rhedeg ochr yn ochr ar system weithredu Linux.

o ooO