Google Polisi Preifatrwydd Google

Polisi Preifatrwydd

Mae Google yn parchu a gwarchod preifatrwydd unigolion sy'n defnyddio peiriant chwilio Google (‘Gwasanaethau Chwilio Google’). Nid yw gwybodaeth i'ch adnabod yn cael ei rhoi i drydydd parti heb eich caniatäd chi, fel yr esbonir yn ein polisi preifatrwydd (‘Polisi Preifatrwydd’).

Google a Cwcis

Ar eich ymweliad cyntaf a Google fe anfonwn ‘gwci’ i'ch cyfrifiadur. Darn o ddata i'ch adnabod fel defnyddiwr unigryw yw'r cwci. Defnyddia Google y cwcis i wella ein gwasanaeth ac i ddeall mwy am ein cwsmeriaid. Gwna Google hyn drwy gadw blaenoriaethau'r defnyddiwr yn y cwcis, tracio tueddiadau a phatrwm o sut mae'r defnyddiwr yn chwilio. Ni wnaiff Google ddatgelu cynnwys cwci i drydydd parti heb broses gywir gyfreithiol fel warant chwilio, subpoena, deddf neu awdurdod cwrt.

Mae'r rhan fwyaf o boryddion wedi eu gosod i dderbyn cwcis. Gallwch osos eich porydd i wrthod cwcis neu i'ch rhybuddio fod cwci yn cael ei anfon i chi. Ond dyliech ddeall y gall rhannau o Wasanaethau Chwilio Google beidio gweithio'n gywir os y gwrthodwch dderbyn cwcis.

Pa wybodaeth a gesglir?

Nid yw Google yn casglu gwybodaeth unigryw amdanoch (fel eich enw, eich cyfeiriad ebost a.y.y.b.) ond pan rhydych yn benodol ac wybodol yn rhoi gwybodaeth o'r fath. Bydd Google yn cadw gwybodaeth fel amser y dydd, mâth o borydd, iaith porydd a chyfeiriad IP gyda pob holiad. Defnyddir y wybodaeth i wiro'n record ni ac i gyflenwi gwasanaeth mwy perthnasol i ddefnyddwyr. Er engraifft, gall Google ddefnyddio eich cyfeiriad IP i benderfynu pa iaith i arddangos canlyniad chwiliad neu iaith hysbyseb.

Linciau i Safleoedd Eraill

Mae'r safleoedd arddangosir mewn canlyniad chwiliad neu linciau iddynt geir drwy Wasanaethau Chwilio Google wedi eu datblygu gan bersonau nad oes gan Google ddim dylanwad arnynt. Bydd linciau eraill, fel y rhai i archif rhestr bostio cyfeillion Google, hwythau ar safleoedd nad os gan Google ddylanwad arnynt. Gall yn safleoedd yma anfon eu cwcis eu hunain i ddefnyddwyr, casglu data neu geisio gwybodaeth bersonol. Gall Google ddewis dangos canlyniad chwiliad yn y ffurf ‘ailgyfeiriwr URL’. Os y defnyddia Google y dull ailgyfeiriwr URL, pan y cliciwch ar URL bydd gwybodaeth am y glic yn cael ei anfon i Google ac yna fe aiff Google a chi i'r safle. Defnyddia Google y wybodaeth yma i ddysgu am a gwella ei thechnoleg chwilio. Er engraifft, gall Google ddarganfod ba mor aml mae defnyddwyr yn fodlon ar y canlyniad cyntaf a geir yn y canlyniad chwilio a pha mor aml maent yn mynd i safleoedd eraill yn y chwiliad.

Gyda Pwy Mae Google yn Rhannu Gwybodaeth?

Bydd Google yn rhannu gwybodaeth amdanoch a hysbysebwyr, pardneiaid busnes, noddwyr a thydydd bartion eraill. Dim ond data cyfanredol a rennir ac ni roddir data a all eich adnabod i neb heb eich caniatâd chi. Er engraifft, ranwn ddata am pa mor aml fod defnyddiwyr Google yn dafnyddio Google, neu pa eiriau chwiliad eraill defnyddir amlaf hefo gair chwilio fel ‘Linux’. Ond dyliech fod yn ymwybodol o'r ffaith y byddwn yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch os oes rhaid dan y ddeddf e.e. warant chwilio, supoena, deddf neu orchymun cwrt.

Eich cydsyniad a'r newid i'r Polisi Preifatrwydd

Drwy ddefnyddio Gwasanaethau Chwilio Google a'n gwefan, yr ydych yn cydsynio i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth fel yr amlinellwyd yn y polisi hwn a'n Polisi Termau o Wasanaeth. Gall Google benderfynu newid y Polisi Preifatrwydd o bry i'w gilydd. Pan wnawn hyn, fe bostiwn y newidadau ar y dudalen hon fel y byddwch yn gwybod drwy'r adeg pa wybodaeth a gesglir, sut a'i defnyddir a dan pa amgylchiadau y byddwu yn ei ddatgelu.

At pwy gai gyfeirio cwestiynnau ychwanegol?

Cewch gysylltu a ni ar unrhyw adeg ac fe atebwn unrhyw cwestiwn ychwanegol sydd ganddoch. Ein cyfeiriad ebost yw help@google.com.

©2008 Google – CartrefYnglyn â Google