Return to Google homepage.

 Proffil y Cwmni

Cartref

Popeth am Google

» Proffil y Cwmni

    Canolfan y Wasg

    Pam Defnyddio Google

Am Google

Cenhadaeth Google yw rhoi'r profiad chwilio gorau ar y Rhyngrwyd drwy wneud gwybodaeth y byd ar gael i bawb mewn ffordd syml a defnyddiol. Mae peiriant chwilio Google y mwyaf yn y byd ac yn cynnig y ffordd gyflymaf a hawsaf i gael gwybodaeth ar y we. Trwy gyrchu 1.3 biliwn o we dudalennau bydd Google yn anfon canlyniadau perthnasol i ddefnyddwyr drwy'r byd, fel arfel mewn llai na hanner eiliad. Heddiw, mae Google yn ymateb i 100 miliwn o chwiliadau y dydd.

Sefydlwyd Google yn 1998 gan ddau fyfyriwr ymchwil Ph.D.,sef Larry Page a Sergey Brin. Mae'n gwmni preifat a chyhoeddodd ym Mehefin 1999 ei fod wedi sicrhau $25 miliwn fel cyllid ecwiti. Cynnwys ein pardneriaid cyllido gwmniau fel Kleiner Perkins Caufield & Byers a Sequoia Capital. Rhoddir gwasanaeth Google drwy eu gwefan gyhoeddus, www.google.com. Cynigia'r cwmni atebion chwilio'r we wedi eu cyd-frandio i roddwyr gwybodaeth cynnwys.

Am Dechnoleg Google

Mae technoleg newydd chwilio Google a'i rhyngwyneb deniadol yn gosod Google ar wahan i 'r peiriannau chwilio cenhedlaeth-gyntaf. Yn hytrach na chynnig chwiliadau gairallweddol neu chwiliad meta, mae Google wedi ei seilio ar dechnoleg flaengar PageRank™(TrefnTud), sy'n sicrhau fod y canlyniadau pwysicaf yn dod gyntaf bob tro.

Mae PageRank (TrefnTud)yn perfformio mesur gwthrychol o bwysigrwydd gwedudalennau a'i gyfrifir drwy ddatrys hafaliad gyda 500 miliwn o newidiynnau ynddi a mwy na 2 biliwn term. Defnyddi PageRank (TrefnTud)y strwythur eang o cyplysau sydd ar y we fel celfyn trefnu. Yn hanfodol, mae Google yn dehongli cyplysiad (linc) o Dudalen A i Dudalen B fel "pleidlais" gan Dudalen A i Dudalen B. Bydd Google yn asesu pwysigrwydd tudalen gyda'r pleidleisiau a dderbyn. Bydd hefyd yn dadansoddi y dudalen fwriodd unrhyw bleidlais.

Mae chwiliad cymleth, awtomatig Google yn gwahardd ymyraeth dynol. Yn wahanol i beiriannau chwilio eraill, ni all unrhyw un brynu i gael eu rhestru'n uwch nac i newid canlyniad. Mae chwiliad Google yn un onest a gwrthrychol sy'n ganfod gwefanau uchel eu safon yn hawdd.

Y Tîm Rheoli

Dr. Eric E. Schmidt, Cadeirydd a Swyddog Gweithredol y Cwmni
Larry Page, Cyd-sylfaenydd a Llywydd, Cynnyrch
Sergey Brin, Cyd-sylfaenydd a Llywydd, Technoleg
Omid Kordestani, Is-lywydd, Datblygiad Busnes a Gwerthiant
Wayne Rosing, Is-lywydd Peirianneg
Cindy McCaffrey, Is-lywydd, Cyfathrebu Corfforiaethol
Joan Braddi, Is-lywydd, Gwasanaethau Chwilio
Tim Armstrong, Is-lywydd, Gwerthiant Hysbysebion
Urs Hölzle, Cymrawd Google
Craig Silverstein, Cyfarwyddwr Technoleg

Ystur Google

Chwarae ar y gair 'googol' yw Google. Bathwyd y gair googol gan Milton Sirotta, nai y mathemategydd American Edward Kasner, i gyfeirio at y rhif a gynrychiolir gan 1 a 1oo sero ar ei ôl. Adlewyrch y defnydd hwn o'r gair genhadaeth y cwmni i drefnu y wybodaeth anferthol sydd ar gael o'r we ac yn y byd.

o ooO