Cysidra Google ansawdd ei chanlyniadau chwilio fel blaenoriaeth hynnod bwysig. Felly, ond ar gais gweofalwr sy'n gyfrifol am y tudalennau wnaiff Google beidio mynegeio tudalennau. Mae'r polisi hwn yn angenrheidiol fel nad yw tudalennau'n cael eu dileu yn amhriodol.
Gan fod Google wedi ymrwymo i ddarparu canlyniadau chilio trylwyr a diduedd i'n defnyddwyr, ni allwn gymeryd rhan mewn sensori gwybodaeth ar y we fyd eang.
|
Opsiynnau Dileu |
Mae'r opsiynnau dileu canlynol ar gael a chymerant effaith y tro nesaf y cropia Google eich gwefan, sydd fel arfer rhyw chwech i wyth wythnos.
- Newid URL eich safle
- Dileu eich gwefan
- Dileu tudalennau unigol
- Dileu snipedau
- Dileu tudalennau o'r storfa
- Dileu linciau diangen ("marw")
- Dileu llun o fanc lluniau Google
|
Newid URL eich safle |
Gan fod cropydd Google yn cydberthnasu cynnwys tudalen gyda ei URL, does yna yr un ffordd o newid a llaw yr URL a arddangosir am eich gwefan. Bydd yr URL yn cael ei huwchraddio y tro nesaf bydd Google yn cropian eich safle. Ni allwn gyflymu y broses gropian chwaith.
Os yw URL eich gwefan wedi newid ers i ni ei chropian ddiwethaf, gallwch ddefnyddio y ffurflen argymhelliad a'r dulliau dileu ddisgrifir isod. Nid yw'r ffurflen yn cael effaith yn syth ac felly gall eich gwefan fod yn gudd oddiwrth Google nes y cropir y safle eto.
Yn lle gofyn newid gan Google argymhellwn eich bod yn gofyn i'r safleoedd rydych a chysylltiadau a hwy i uwchraddio eu linciau (i bwyntio i'ch safle newydd). Hefyd, peidiwch ag anghofio newid unrhyw gofnod yng nghyfeiriadur Yahoo! a'r Cyfeiriadur Agored. Yn olaf, os bydd eich hen URL yn arallgyfeirio i'ch safle newydd gan ddefnyddio HTTP 301 (permanent) redirects, bydd ein cropydd yn gwybod i ddefnyddio'r URL newydd. Cymer 6 - 8 wythnos i newidiadau fel hyn ddod i rym yn Google.
|
Dileu eich gwefan |
Os ydych am wahardd eich safle cyfan neu ran arbennig (cyfeiriadur) o'ch gweinydd o fynegai Google, gallwch roi ffeil yng ngwraidd y gweinydd o'r enw robots.txt.
I atal Google neu unrhyw gropydd arall rhag cropian a mynegeio'ch safle rhowch y ffeil robots.txt yn ngwraidd y gweinydd:
User-Agent: *Disallow: /
Dyma'r protocol safonol mae'r rhan fwyaf o gropyddion y we yn ei ddefnyddio i wahardd safle neu gyfeiriadur rhag cael ei fynegeio. Mae mwy o wybodaeth am robots.txt ar gael yma: http://www.robotstxt.org/wc/norobots.html.
|
|
Dileu tudalennau unigol |
Os am wahardd pob robot rhag mynegeio tudalennau unigol o'ch safle, yna gallwch osod y tag meta canlynnol yng nghôd HTML y dudalen:
Os am adael robots eraill fynegeio'ch safle, ond gwahardd Google yn unig rhag mynegeio, defnyddiwch y tag yma:
Am fwy o wybodaeth ar y tab safonol hwn ewch i: http://www.robotstxt.org/wc/exclusion.html#meta
|
|
Dileu snipedau |
Sniped yw detholiad o destun tudalen sy'n cynnwys holl dermau'r chwiliad a'i arddangos mewn ffont drwm. Mae'r detholiad yn gadael i ddefnyddiwr weld cyd-destun y chwiliad yn nhermau'r dudalen, cyn clicio ar y canlyniad. Bydd defnyddwyr yn debycach o ddewis canlyniad chwiliad o gael sniped cyfatebol.
Os am wahardd Google rhag defnyddio snipedau am eich tudalennau, defnyddiwch y tag hwn:
Noder: mae gwahardd snipedau hefyd yn gwahardd storio tudalennau.
|
|
Dileu tudalennau o'r storfa |
Cedwir tudalennau a gropir mewn storfa gan Google. Mae hyn yn gadael i ni arrddangos y dudalen os y bydd y wreiddiol ddim ar gael (e.e. pan fo gweinydd y safle oddiar lein. Bydd y dudalen yn edrych yn union fel yr oedd pan wnaeth Google ei chropian olaf. Bydd yna neges ar ben y dudalen i ddangos mai fersiwn o'r storfa ydyw a nid y dudalen fel y mae heddiw.
Os am atal pob robot rhag mynegeio'ch safle, defnyddiwch y tag meta NOARCHIVE. Gosodwch y tag yn yr adran
o'ch dogfen fel a ganlyn:

